44 Ac roedd Jehosaffat wedi gwneud cytundeb heddwch gyda brenin Israel.
45 Mae gweddill hanes Jehosaffat, y cwbl wnaeth e lwyddo i'w wneud a'r rhyfeloedd wnaeth e eu hymladd, i'w gweld yn y sgrôl Hanes Brenhinoedd Jwda.
46 Roedd e hefyd wedi gyrru allan o'r wlad weddill y puteiniaid teml oedd yn dal yno yng nghyfnod ei dad Asa.
47 Doedd gan Edom ddim brenin ar y pryd, dim ond rhaglaw.
48 Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw erioed hwylio am eu bod wedi eu dryllio yn y porthladd yn Etsion-geber.
49 Roedd Ahaseia, mab Ahab, wedi gofyn i Jehosaffat, “Gad i'n gweision ni forio gyda'i gilydd ar y llongau.” Ond roedd Jehosaffat wedi gwrthod.
50 Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.