48 Adeiladodd Jehosaffat longau masnach mawr i fynd i Offir am aur; ond wnaethon nhw erioed hwylio am eu bod wedi eu dryllio yn y porthladd yn Etsion-geber.
49 Roedd Ahaseia, mab Ahab, wedi gofyn i Jehosaffat, “Gad i'n gweision ni forio gyda'i gilydd ar y llongau.” Ond roedd Jehosaffat wedi gwrthod.
50 Pan fuodd Jehosaffat farw, cafodd ei gladdu gyda'i hynafiaid yn ninas Dafydd. Daeth ei fab Jehoram yn frenin yn ei le.
51 Roedd Jehosaffat wedi bod yn frenin ar Jwda am un deg saith o flynyddoedd pan ddaeth Ahaseia mab Ahab yn frenin ar Israel yn Samaria. Bu'n frenin ar Israel am ddwy flynedd.
52 Gwnaeth bethau drwg iawn yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac ymddwyn fel ei dad a'i fam, ac fel Jeroboam fab Nebat oedd wedi achosi i bobl Israel bechu.
53 Roedd yn addoli Baal ac yn ymgrymu iddo. Roedd yn gwylltio'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn union fel gwnaeth ei dad.