19 Un noson dyma ei mab hi'n marw; roedd hi wedi gorwedd arno.
20 Cododd yn y nos a chymryd fy mab i oedd wrth fy ymyl tra roeddwn i'n cysgu. Cymrodd fy mab i i'w chôl a rhoi ei phlentyn marw hi yn fy mreichiau i.
21 Pan wnes i ddeffro yn y bore i fwydo'r babi, roedd e wedi marw. Ond wrth edrych yn fanwl, dyma fi'n sylweddoli mai nid fy mab i oedd e.”
22 Yna dyma'r ferch arall yn dweud, “Na! Fy mab i ydy'r un byw. Dy fab di sydd wedi marw.”A dyma'r gyntaf yn ateb “Nage, yr un marw ydy dy fab di. Fy mab i ydy'r un byw.” Roedd y ddwy ohonyn nhw'n dadlau â'i gilydd fel hyn o flaen y brenin.
23 Yna dyma'r brenin yn dweud, “Mae un ohonoch chi'n dweud, ‘Fy mab i ydy hwn; mae dy fab di wedi marw’, a'r llall yn dweud, ‘Na! Dy fab di sydd wedi marw; fy mab i ydy'r un byw.’”
24 Yna dyma'r brenin yn gorchymyn i'w weision, “Dewch â chleddyf i mi.” A dyma nhw'n dod ag un iddo.
25 Wedyn dyma'r brenin yn dweud, “Torrwch y plentyn byw yn ei hanner, a rhowch hanner bob un iddyn nhw.”