14 Achinadab fab Ido: yn Machanaîm;
15 Achimaats: yn Nafftali (fe wnaeth briodi Basemath, merch Solomon);
16 Baana fab Chwshai: yn Asher ac yn Aloth;
17 Jehosaffat fab Parŵach: yn Issachar;
18 Shimei fab Ela: yn Benjamin;
19 a Geber fab Wri: yn ardal Gilead (sef y wlad oedd yn perthyn ar un adeg i Sihon brenin yr Amoriaid ac Og brenin Bashan). Fe oedd yr unig swyddog yn y rhanbarth hwnnw i gyd.
20 Roedd poblogaeth fawr yn Jwda ac Israel, roedd pobl fel y tywod ar lan y môr, ond roedd ganddyn nhw ddigon i'w fwyta a'i yfed, ac roedden nhw'n hapus.