24 Achos roedd y llys brenhinol mor fawr – roedd yn rheoli'r holl ardaloedd i'r gorllewin o Tiffsa ar lan Afon Ewffrates i lawr i Gasa, ac roedd heddwch rhyngddo â'r gwledydd o'i gwmpas.
25 Pan oedd Solomon yn fyw, roedd pawb yn Jwda ac Israel yn teimlo'n saff. Roedd gan bawb, o Dan yn y gogledd i Beersheba yn y de, gartref a thir i allu mwynhau cynnyrch eu gwinwydd a'u coed ffigys.
26 Roedd gan Solomon stablau i ddal pedwar deg mil o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo un deg dau o filoedd o farchogion.
27 Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim.
28 Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i'w roi i'r ceffylau a'r meirch.
29 Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr.
30 Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a'r Aifft.