26 Roedd gan Solomon stablau i ddal pedwar deg mil o geffylau cerbyd, ac roedd ganddo un deg dau o filoedd o farchogion.
27 Roedd y swyddogion rhanbarthol yn darparu bwyd ar gyfer y Brenin Solomon a phawb yn ei lys. Roedd pob un yn gyfrifol am fis, ac yn gwneud yn siŵr nad oedd y llys yn brin o ddim.
28 Roedd gan bob un hefyd stablau penodol i fynd â haidd a gwellt iddyn nhw i'w roi i'r ceffylau a'r meirch.
29 Roedd Duw wedi rhoi doethineb a deall eithriadol i Solomon. Roedd ei wybodaeth yn ddiddiwedd, fel y tywod ar lan y môr.
30 Roedd yn fwy doeth nag unrhyw un o ddynion doeth y dwyrain a'r Aifft.
31 Doedd neb doethach nag e. Roedd yn ddoethach nac Ethan yr Esrachiad, Heman hefyd, a Calcol a Darda, meibion Machol. Roedd yn enwog drwy'r gwledydd o'i gwmpas i gyd.
32 Roedd wedi llunio tair mil o ddiarhebion a chyfansoddi mil a phump o ganeuon.