7 Roedd gan Solomon ddeuddeg swyddog rhanbarthol dros wahanol ardaloedd yn Israel. Roedden nhw'n gyfrifol am ddarparu bwyd i'r brenin a'i lys – pob un yn gyfrifol am un mis y flwyddyn.
8 Dyma'u henwau nhw:Ben-chŵr: ar fryniau Effraim;
9 Ben-decar: yn Macats, Shaalfîm, Beth-shemesh ac Elon-beth-chanan;
10 Ben-chesed: yn Arwboth (roedd ei ardal e'n cynnwys Socho a holl ardal Cheffer);
11 Ben-abinadab: yn Naffath-dor i gyd (roedd e wedi priodi Taffath, merch Solomon);
12 Baana fab Achilwd: yn Taanach, Megido a'r rhan o Beth-shean sydd wrth ymyl Sarethan, o dan Jesreel. Roedd ei ardal yn mynd o Beth-shean hyd at Abel-mechola a'r tu hwnt i Jocmeam;
13 Ben-geber: yn Ramoth-gilead. Roedd ei ardal e'n cynnwys gwersylloedd Jair mab Manasse, yn Gilead, ac ardal Argob yn Bashan oedd yn cynnwys chwe deg o drefi mawr, pob un gyda waliau cadarn a barrau pres ar eu giatiau;