1 Dyma Hiram, brenin Tyrus, yn clywed fod Solomon wedi cael ei wneud yn frenin yn lle ei dad. A dyma fe'n anfon llysgenhadon i'w longyfarch, achos roedd Hiram wedi bod yn ffrindiau da gyda Dafydd ar hyd ei oes.
2 Felly dyma Solomon yn anfon neges yn ôl ato,
3 “Ti'n gwybod fod fy nhad, Dafydd, ddim wedi gallu adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD ei Dduw. Roedd cymaint o ryfeloedd i'w hymladd cyn i'r ARGLWYDD ei helpu i goncro ei elynion i gyd.
4 Ond bellach, diolch i'r ARGLWYDD Dduw, mae gynnon ni heddwch llwyr. Does dim un gelyn yn ymosod arnon ni nac yn ein bygwth ni.
5 Felly dw i am adeiladu teml i'r ARGLWYDD fy Nuw. Roedd e wedi dweud wrth Dafydd, fy nhad, ‘Dy fab di, yr un fydd yn frenin ar dy ôl di, fydd yn adeiladu teml i mi.’
6 Felly, rho orchymyn i dorri coed cedrwydd o Libanus i mi. Gall y gweithwyr sydd gen i weithio gyda dy weithwyr di. Gwna i dalu iddyn nhw beth bynnag rwyt ti'n ddweud. Ti'n gwybod yn iawn nad oes gynnon ni neb sy'n gallu trin coed fel pobl Sidon.”
7 Roedd Hiram yn hapus iawn pan gafodd neges Solomon. A dyma fe'n dweud, “Bendith ar yr ARGLWYDD heddiw, am iddo roi mab mor ddoeth i Dafydd i fod yn frenin ar y genedl fawr yna.”