1 Dechreuodd Solomon adeiladu teml yr ARGLWYDD yn ystod ei bedwaredd flwyddyn fel brenin, yn yr ail fis, sef Mis Sif. Roedd hi'n bedwar cant wyth deg o flynyddoedd ers i bobl Israel ddod allan o wlad yr Aifft.
2 Roedd y deml yn ddau ddeg saith metr o hyd, naw metr o led, ac un deg tri metr a hanner o uchder.
3 Roedd cyntedd o flaen y deml yn naw metr o hyd ac yn bedwar metr a hanner o led.
4 Dyma nhw'n gwneud ffenestri latis i'r deml.
5 Yna dyma nhw'n codi estyniad, o gwmpas waliau'r prif adeilad a'r cysegr, gydag ystafelloedd ochr ynddo.
6 Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain.