11 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon:
12-13 “Os byddi di'n byw fel dw i'n dweud, yn cadw fy neddfau, yn gwrando ar fy ngorchmynion ac yn ufudd iddyn nhw, yna bydda i yn cadw'r addewid wnes i dy dad Dafydd. Bydda i yn byw gyda phobl Israel yn y deml yma rwyt ti wedi ei chodi a fydda i byth yn troi cefn arnyn nhw.”
14 Felly, dyma Solomon yn gorffen adeiladu'r deml.
15 Roedd y waliau tu mewn yn baneli o goed cedrwydd, o'r llawr i'r to. Roedd tu mewn y deml yn bren i gyd, a'r llawr yn blanciau o goed pinwydd.
16 Roedd y naw metr pellaf, yng nghefn yr adeilad, yn gell ar wahân, tu ôl i bared o goed cedrwydd wedi ei godi o'r llawr i'r to. Hwn oedd y cysegr mwyaf sanctaidd.
17 Roedd prif neuadd y deml, o flaen y cysegr mewnol, yn un deg wyth metr o hyd.
18 Roedd y pren tu mewn i'r deml wedi ei gerfio drosto gyda ffrwyth cicaion a blodau agored. Roedd yn baneli cedrwydd i gyd; doedd dim un garreg yn y golwg.