24 Roedd pob adain yn ddau fetr a chwarter o hyd – pedwar metr a hanner o flaen un adain i flaen yr adain arall.
25 Roedd y ddau geriwb yr un maint a'i gilydd, ac roedd siâp y ddau yr un fath.
26 Roedd y ddau yn bedwar metr a hanner o daldra.
27 Dyma Solomon yn rhoi'r ddau geriwb ochr yn ochr yn y cysegr mewnol, gyda'i hadenydd ar led. Roedd adain y cyntaf yn cyffwrdd y wal un ochr i'r gell, ac adain y llall yn cyffwrdd y wal ar yr ochr arall. Ac roedd ail adain y ddau geriwb yn cyffwrdd ei gilydd yn y canol.
28 Roedd y ddau geriwb wedi eu gorchuddio gydag aur.
29 Roedd waliau'r deml i gyd (waliau'r brif neuadd a'r cysegr mewnol) wedi eu cerfio drostyn nhw gyda lluniau o geriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored.
30 Roedd y llawr wedi ei orchuddio gydag aur (yn y brif neuadd a'r cysegr mewnol).