31 Roedd drysau o goed olewydd i fynd i mewn i'r gell fewnol gysegredig. Roedd pyst a lintel y drws yn bumochrog.
32 Roedd y ddau ddrws gyda ceriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi eu cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl gyda haen o aur yn ei orchuddio.
33 Roedd pyst y drysau i fynd i mewn i brif neuadd y deml yn sgwâr, a'r rhain hefyd wedi eu gwneud o goed olewydd.
34 Ond roedd y ddau ddrws eu hunain yn goed pinwydd. Roedd y ddau ddrws wedi eu gwneud o ddau ddarn oedd yn plygu yn ôl ar ei gilydd.
35 Roedd ceriwbiaid, coed palmwydd a blodau agored wedi eu cerfio arnyn nhw, ac roedd y cwbl wedi ei orchuddio gyda haen o aur, hyd yn oed y gwaith cerfio.
36 Roedd y wal o gwmpas yr iard fewnol (sef yr iard agosaf at y deml ei hun) wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu, ac yna paneli o goed cedrwydd.
37 Roedden nhw wedi dechrau adeiladu'r deml ym Mis Sif, yn ystod pedwaredd flwyddyn Solomon fel brenin.