5 Yna dyma nhw'n codi estyniad, o gwmpas waliau'r prif adeilad a'r cysegr, gydag ystafelloedd ochr ynddo.
6 Roedd llawr isaf yr estyniad yn ddau fetr ar draws, y llawr canol yn ddau fetr a hanner a'r trydydd yn dri metr. Roedd siliau ar waliau allanol y deml, fel bod dim rhaid gosod y trawstiau yn y waliau eu hunain.
7 Roedd y deml yn cael ei hadeiladu gyda cherrig oedd wedi cael eu paratoi yn barod yn y chwarel. Felly doedd dim sŵn morthwyl na chaib nac unrhyw offer haearn arall i'w glywed yn y deml wrth iddyn nhw adeiladu.
8 Roedd y drws i'r ystafelloedd ar y llawr isaf ar ochr ddeheuol y deml. Wedyn roedd grisiau tro yn mynd i fyny i'r llawr canol, ac yna ymlaen i'r trydydd llawr.
9 Ar ôl gorffen adeiladu'r deml ei hun, dyma nhw'n rhoi to drosti wedi ei wneud o drawstiau a paneli o gedrwydd.
10 Yna codi'r ystafelloedd o'i chwmpas – pob un yn ddau fetr o uchder, gyda trawstiau o goed cedrwydd yn eu dal yn sownd i waliau'r deml ei hun.
11 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Solomon: