1 Ond roedd palas Solomon wedi cymryd un deg tair o flynyddoedd i'w adeiladu.
2 Galwodd e'n Blas Coedwig Libanus. Roedd yn bedwar deg pedwar metr o hyd, dau ddeg dau metr o led ac un deg tri metr a hanner o uchder. Roedd tair rhes o bileri cedrwydd ynddo, ac ar ben y pileri roedd trawstiau o gedrwydd.
3 Wedyn roedd to o gedrwydd uwchben y trawstiau oedd yn gorwedd ar y pedwar deg pum piler (un deg pump ym mhob rhes).
4 Ac roedd yna dri set o dair o ffenestri'n wynebu'i gilydd.
5 Roedd fframiau'r drysau a'r ffenestri'n siâp petryal.
6 Roedd yna neuadd golofnog oedd yn ddau ddeg dau metr o hyd ac un deg tri metr a hanner o led. O flaen hon roedd cyntedd gyda pileri a canopi drosto.