15 Hiram wnaeth y ddau biler pres – oedd bron naw metr o uchder a dau fetr ar draws.
16 Yna gwnaeth gapiau i'w gosod ar dop y ddau biler. Roedd y capiau yma, o bres wedi ei gastio, dros ddau fetr o uchder.
17 Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi eu plethu o gwmpas y capiau,
18 a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi eu gorchuddio.
19 Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron ddau fetr o uchder.
20 Ar dop y ddau biler, uwch ben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi eu plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas.
21 Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachin a'r un ar y chwith yn Boas.