17 Roedd rhwyllwaith gyda saith rhes o batrymau tebyg i gadwyni wedi eu plethu o gwmpas y capiau,
18 a hefyd dwy res o bomgranadau, nes bod top y pileri wedi eu gorchuddio.
19 Roedd top y ddau biler yn y cyntedd yn agor allan yn siâp lilïau oedd bron ddau fetr o uchder.
20 Ar dop y ddau biler, uwch ben y darn crwn gyda'r patrymau o gadwyni wedi eu plethu, roedd dau gant o bomgranadau yn rhesi o'u cwmpas.
21 Dyma Hiram yn gosod y ddau biler yn y cyntedd o flaen y brif neuadd yn y deml. Galwodd yr un ar y dde yn Iachin a'r un ar y chwith yn Boas.
22 Roedd top y pileri yn agor allan yn siâp lilïau. Felly cafodd y gwaith ar y pileri ei orffen.
23 Yna dyma fe'n gwneud basn anferth i ddal dŵr. Roedd hwn wedi ei wneud o bres wedi ei gastio, ac yn cael ei alw "Y Môr". Roedd yn bedwar metr a hanner ar draws o un ochr i'r llall, dros ddau fetr o ddyfnder ac un deg tri metr a hanner o'i hamgylch.