24 O gwmpas "Y Môr", o dan y rhimyn, roedd dwy res o addurniadau bach siâp ffrwyth cicaion, un bob rhyw bedwar centimetr a hanner.
25 Roedd "Y Môr" wedi ei osod ar gefn un deg dau ychen. Roedd tri yn wynebu tua'r gogledd, tri tua'r gorllewin, tri tua'r de a thri tua'r dwyrain. Roedden nhw i gyd yn wynebu tuag allan gyda'u cynffonnau at i mewn.
26 Roedd y basn tua lled dwrn o drwch, ac roedd ei ymyl fel ymyl cwpan siâp blodyn lili. Roedd yn dal bron iawn bedwar deg pum mil litr o ddŵr.
27 Gwnaeth Hiram ddeg troli ddŵr o bres hefyd. Roedd pob un yn ddau fetr o hyd, yn ddau o led a bron yn fetr a hanner o uchder.
28 Dyma gynllun y trolïau: roedd ganddyn nhw fframiau yn dal paneli ar yr ochr.
29 Roedd y paneli wedi eu haddurno gyda lluniau o lewod, ychen a ceriwbiaid. Ar y fframiau, uwchben ac o dan y llewod a'r ychen, roedd patrymau wedi eu plethu.
30 Roedd gan bob troli bedair olwyn bres ar echelau pres. Ar bob cornel roedd silff fach i'r ddysgl eistedd arni. Roedd y rhain yn rhan o'r troli ac wedi eu haddurno gyda phlethiadau.