31 Tu mewn i'r troli roedd ffrâm crwn, pedwar deg pump centimetr o ddyfnder, i ddal y ddysgl. Roedd yn gylch saith deg centimetr ar draws. O gwmpas y geg roedd border o addurniadau. Roedd y paneli'n sgwâr ac nid crwn.
32 Roedd pedair olwyn o dan y paneli, ac roedd soced i ddal echel pob olwyn yn sownd yn y ffrâm. Saith deg centimetr oedd uchder yr olwynion.
33 Roedd yr olwynion wedi eu gwneud fel olwynion cerbyd rhyfel. Roedd yr echel, yr ymyl, y sbôcs a'r both i gyd o fetel wedi ei gastio.
34 Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi eu gwneud yn rhan o'r ffrâm.
35 Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo.
36 Roedd wedi cerfio ceriwbiaid, llewod a choed palmwydd ar y paneli roedd y cylchoedd yn sownd iddyn nhw. Roedd y rhain wedi eu cerfio ble bynnag roedd lle iddyn nhw, ac o'u cwmpas nhw roedd patrymau wedi eu plethu.
37 Roedd y deg troli dŵr yr un fath. Roedd wedi defnyddio'r un mowld. Roedd pob un yr un maint a'r un siâp.