34 Roedd pedair silff fach ar bedair cornel y troli, ac roedd y silffoedd wedi eu gwneud yn rhan o'r ffrâm.
35 Ar dop y troli roedd cylch crwn dau ddeg centimetr o uchder. Ar ei dop hefyd roedd cylchoedd a phaneli yn sownd ynddo.
36 Roedd wedi cerfio ceriwbiaid, llewod a choed palmwydd ar y paneli roedd y cylchoedd yn sownd iddyn nhw. Roedd y rhain wedi eu cerfio ble bynnag roedd lle iddyn nhw, ac o'u cwmpas nhw roedd patrymau wedi eu plethu.
37 Roedd y deg troli dŵr yr un fath. Roedd wedi defnyddio'r un mowld. Roedd pob un yr un maint a'r un siâp.
38 Yna dyma fe'n gwneud deg dysgl bres. Roedd pob dysgl yn ddau fetr o led ac yn dal wyth gant wyth deg litr. Roedd un ddysgl ar gyfer pob un o'r deg troli.
39 Dyma fe'n gosod pum troli ar ochr y de yn y deml, a phump ar ochr y gogledd. Roedd "Y Môr" yn y gornel oedd i'r de-ddwyrain o'r deml.
40 Dyma Hiram hefyd yn gwneud dysglau, rhawiau a powlenni. Gorffennodd y cwbl o'r gwaith roedd y Brenin Solomon wedi ei roi iddo i'w wneud ar deml yr ARGLWYDD.