41 Roedd wedi gwneud: y ddau biler, y capiau i'w gosod ar ben y ddau biler, dau set o batrymau wedi eu plethu i fynd dros y capiau,
42 pedwar cant o bomgranadau i'w gosod yn ddwy res ar y ddau set o batrymau oedd wedi eu plethu ar y capiau ar ben y pileri.
43 Hefyd y deg troli ddŵr, a'r deg dysgl i fynd ar y deg troli,
44 y basn anferth oedd yn cael ei alw "Y Môr", gyda'r un deg dau ychen oddi tano,
45 a hefyd y bwcedi lludw, rhawiau a powlenni taenellu.Roedd yr holl gelfi yma wnaeth Hiram i'r Brenin Solomon ar gyfer teml yr ARGLWYDD wedi eu gwneud o bres gloyw.
46 Roedd y cwbl wedi cael eu castio mewn clai yn y ffowndri sydd rhwng Swccoth a Sarethan, yn ardal yr Iorddonen.
47 Wnaeth Solomon ddim pwyso'r cwbl am fod cymaint ohonyn nhw; does dim posib gwybod beth oedd eu pwysau.