7 Yna gwnaeth Neuadd yr Orsedd, lle roedd yn barnu'r bobl (y Neuadd Farn). Roedd hi'n gedrwydd i gyd o'r llawr i'r to.
8 Roedd y tŷ lle roedd Solomon yn byw yr ochr draw i iard oedd tu cefn i'r Neuadd yma, ac wedi ei adeiladu i gynllun tebyg. Roedd e hefyd wedi adeiladu palas arall tebyg i'w wraig, sef merch y Pharo.
9 Roedd yr adeiladau i gyd wedi eu codi'n gyfan gwbl gyda'r cerrig gorau, oedd wedi eu naddu i'w maint a'u llyfnhau wedyn gyda llif. Ac roedd yr iard fawr y tu allan yr un fath.
10 Roedd y sylfeini wedi eu gwneud o gerrig anferth drudfawr, rhai yn mesur pedwar metr a hanner, a rhai eraill yn dri metr a hanner.
11 Ar y sylfeini hynny roedd popeth wedi ei adeiladu gyda'r cerrig gorau, pob un wedi ei naddu i'r maint cywir, a gyda choed cedrwydd.
12 O gwmpas yr iard fawr roedd wal wedi ei hadeiladu gyda tair rhes o gerrig wedi eu naddu ac yna paneli o goed cedrwydd. Roedd yr un fath â iard fewnol a cyntedd Teml yr ARGLWYDD.
13 Yna dyma'r Brenin Solomon yn anfon i Tyrus am ddyn o'r enw Hiram.