10 Wrth i'r offeiriaid ddod allan o'r Lle Sanctaidd dyma gwmwl yn llenwi Teml yr ARGLWYDD.
11 Roedd yr offeiriaid yn methu gwneud eu gwaith oherwydd y cwmwl. Roedd ysblander yr ARGLWYDD yn llenwi ei Deml.
12 Yna dyma Solomon yn dweud:“Mae'r ARGLWYDD yn dweudei fod yn byw mewn cwmwl tywyll.
13 ‘ARGLWYDD, dyma fi wedi adeiladu teml wych i ti,lle i ti fyw ynddo am byth.’”
14 Yna dyma'r brenin yn troi i wynebu'r gynulleidfa a bendithio holl bobl Israel oedd yn sefyll yno:
15 “Bendith ar yr ARGLWYDD, Duw Israel! Mae wedi gwneud y cwbl roedd wedi ei addo i Dafydd fy nhad. Roedd wedi dweud:
16 ‘Ers i mi ddod â'm pobl Israel allan o'r Aifft, wnes i ddim dewis un ddinas arbennig o blith llwythau Israel i adeiladu teml i fyw ynddi. Ond gwnes i ddewis Dafydd i arwain fy mhobl Israel.’