17 Roedd fy nhad, Dafydd, wir eisiau adeiladu teml i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
18 Ond dwedodd yr ARGLWYDD wrtho, ‘Ti eisiau adeiladu teml i mi, ac mae'r bwriad yn un da.
19 Ond nid ti fydd yn ei hadeiladu. Mab wedi ei eni i ti fydd yn adeiladu teml i mi.’
20 A bellach mae'r ARGLWYDD wedi gwneud beth roedd wedi ei addo. Dw i wedi dod yn frenin ar Israel yn lle fy nhad Dafydd, a dw i wedi adeiladu'r deml yma i anrhydeddu'r ARGLWYDD, Duw Israel.
21 Dw i wedi gwneud lle i'r Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda'n hynafiaid pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.”
22 Yna o flaen pawb, dyma Solomon yn mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr,
23 a gweddïo,“O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd uchod nac i lawr yma ar y ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.