21 Dw i wedi gwneud lle i'r Arch sy'n dal yr ymrwymiad wnaeth yr ARGLWYDD gyda'n hynafiaid pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.”
22 Yna o flaen pawb, dyma Solomon yn mynd i sefyll o flaen yr Allor. Cododd ei ddwylo i'r awyr,
23 a gweddïo,“O ARGLWYDD, Duw Israel, does dim Duw tebyg i ti yn y nefoedd uchod nac i lawr yma ar y ddaear! Ti mor ffyddlon, yn cadw dy ymrwymiad i dy weision, y rhai sydd wir eisiau bod yn ufudd i ti.
24 Ti wedi cadw dy addewid i Dafydd fy nhad. Heddiw, yma, ti wedi gwneud beth wnest ti ei addo.
25 Nawr, ARGLWYDD, Duw Israel, cadw'r addewid arall wnest ti i Dafydd, fy nhad. Dyma wnest ti ddweud: ‘Bydd un o dy deulu di ar orsedd Israel am byth, dim ond i dy ddisgynyddion di fod yn ofalus eu bod yn byw yn ffyddlon i mi fel rwyt ti wedi gwneud.’
26 Felly nawr, O Dduw Israel, gad i'r hyn wnest ti ei ddweud wrth fy nhad, dy was Dafydd, ddod yn wir.
27 Wrth gwrs, dydy Duw ddim wir yn gallu byw ar y ddaear! Dydy'r awyr i gyd a'r nefoedd uchod ddim digon mawr i dy ddal di! Felly pa obaith sydd i'r deml yma dw i wedi ei hadeiladu?