3 Wedi i'r arweinwyr i gyd gyrraedd, dyma'r seremoni yn dechrau. Dyma'r offeiriaid yn codi'r Arch.
4 A dyma'r offeiriaid a'r Lefiaid yn cario Arch Duw, Pabell presenoldeb Duw a'r holl gelfi cysegredig oedd yn y babell.
5 Roedd y Brenin Solomon, a holl bobl Israel oedd gydag e, yn mynd o flaen yr Arch ac yn aberthu defaid a gwartheg i Dduw. Cafodd cymaint o anifeiliaid eu haberthu roedd hi'n amhosibl eu cyfri i gyd!
6 A dyma'r offeiriaid yn dod ag Arch Ymrwymiad Duw i mewn a'i gosod yn ei lle yn y gell fewnol yn y deml, sef y Lle Mwyaf Sanctaidd, o dan adenydd y ceriwbiaid.
7 Roedd adenydd y ceriwbiaid wedi eu lledu dros ble roedd yr Arch yn eistedd. Roedd eu hadenydd yn cysgodi'r Arch a'i pholion.
8 Ond roedd y polion mor hir, roedd hi'n bosibl gweld eu pennau nhw o'r ystafell oedd o flaen y Gell Gysegredig Fewnol; ond doedden nhw ddim i'w gweld o'r tu allan. Maen nhw yno hyd heddiw.
9 Does yna ddim byd yn yr Arch ond y ddwy lechen garreg roedd Moses wedi eu rhoi ynddi yn Sinai. Dyma lechi'r ymrwymiad roedd yr ARGLWYDD wedi ei wneud gyda phobl Israel pan ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft.