36 yna gwrando di o'r nefoedd. Maddau i dy bob Israel. Dysga nhw beth ydy'r ffordd iawn i fyw, ac anfon law eto ar y wlad yma rwyt ti wedi ei rhoi i dy bobl ei chadw.
37 Pan fydd y wlad yn cael ei tharo gan newyn neu bla – am fod y cnydau wedi eu difetha gan ormod o wres neu ormod o law, neu am eu bod wedi cael eu difa gan locustiaid, neu am fod gelynion wedi ymosod ar y wlad ac yn gwarchae ar ei dinasoedd. Beth bynnag fydd yr helynt neu'r broblem,
38 gwrando di ar bob gweddi. Gwrando pan fydd unrhyw un o dy bobl Israel yn troi at y deml yma ac yn tywallt ei faich o dy flaen di.
39 Gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw, a maddau. Ti'n deall pobl i'r dim, felly rho i bob un beth mae'n ei haeddu. (Ti ydy'r unig un sy'n gwybod yn iawn beth sydd ar galon pob person byw.)
40 Fel yna byddan nhw'n dy barchu di tra byddan nhw'n byw yn y wlad rwyt ti wedi ei roi i'w hynafiaid.
41 A bydd pobl o wledydd eraill yn dod yma i addoli ar ôl clywed amdanat ti.
42 Byddan nhw wedi clywed am dy enw da di, a'r ffaith dy fod ti'n gallu gwneud pethau mor anhygoel. Pan ddaw pobl felly i'r deml hon i weddïo,