43 gwrando yn y nefoedd lle rwyt ti'n byw. Gwna beth mae'r bobl hynny'n ei ofyn gen ti. Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd yn dod i dy nabod di ac yn dy barchu di, yr un fath â phobl Israel. Byddan nhw'n gwybod fod y deml yma wedi ei hadeiladu i dy anrhydeddu di.
44 Hefyd pan fydd dy bobl yn mynd i ryfel yn erbyn eu gelynion, ble bynnag fyddi di'n eu hanfon nhw. Os byddan nhw'n troi tuag at y ddinas rwyt ti wedi ei dewis a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti, ac yn gweddïo arnat ti ARGLWYDD,
45 yna gwrando o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a gweithredu ar eu rhan nhw.
46 Ond pan fydd dy bobl wedi pechu yn dy erbyn di (achos does neb sydd byth yn pechu!) a tithau'n wyllt gyda nhw, byddi'n gadael i'r gelyn eu dal nhw a'u cymryd yn gaeth i'w gwlad eu hunain, ble bynnag mae honno.
47 Yna, yn y wlad ble maen nhw'n gaeth, byddan nhw'n callio ac yn newid eu ffyrdd. Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti ac yn pledio'n daer gan ddweud, ‘Dŷn ni wedi pechu a bod yn anffyddlon a gwneud drwg.’
48 Byddan nhw'n troi yn ôl atat ti o ddifrif yng ngwlad y gelyn lle cawson nhw eu cymryd. Byddan nhw'n troi i weddïo tuag at eu gwlad a'r ddinas rwyt ti wedi ei dewis, a'r deml dw i wedi ei hadeiladu i ti.
49 Gwranda o'r nefoedd ar eu gweddi nhw am help, a'u cefnogi nhw.