53 Achos rwyt ti wedi eu dewis nhw yn bobl sbesial i ti dy hun allan o holl bobl y byd. Ie, dyna ddwedaist ti trwy Moses dy was wrth i ti ddod â'n hynafiaid allan o wlad yr Aifft, o Feistr, ARGLWYDD.”
54 Wedi i Solomon orffen gweddïo, a gofyn y pethau yma i gyd i'r ARGLWYDD, dyma fe'n codi ar ei draed. Roedd wedi bod ar ei liniau o flaen allor yr ARGLWYDD a'i ddwylo ar led tua'r nefoedd.
55 Dyma fe'n sefyll a bendithio holl bobl Israel â llais uchel:
56 “Bendith ar yr ARGLWYDD! Mae wedi rhoi heddwch i'w bobl Israel, fel gwnaeth e addo. Mae wedi cadw pob un o'r addewidion gwych wnaeth e trwy Moses ei was.
57 Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD ein Duw gyda ni fel roedd gyda'n hynafiaid. Dw i'n gweddïo na fydd e byth yn troi ei gefn arnon ni a'n gadael ni.
58 Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid.
59 Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen.