58 Dw i'n gweddïo y bydd e'n rhoi'r awydd ynon ni i fod yn ufudd i'r holl orchmynion, rheolau a chanllawiau roddodd e i'n hynafiaid.
59 Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD bob amser yn cofio geiriau'r weddi yma, ac yn cefnogi ei was a'i bobl Israel o ddydd i ddydd fel bo'r angen.
60 Wedyn bydd pobl y byd i gyd yn dod i ddeall mai'r ARGLWYDD ydy'r unig Dduw go iawn – does dim duw arall.
61 Dw i'n gweddïo y byddwch chi'n byw yn hollol ffyddlon i'r ARGLWYDD ein Duw, yn cadw ei reolau a'i orchmynion fel dych chi'n gwneud heddiw.”
62 Roedd y brenin, a pobl Israel i gyd, yn aberthu anifeiliaid i'r ARGLWYDD.
63 Dyma Solomon yn lladd dau ddeg dau o filoedd o wartheg a cant dau ddeg mil o ddefaid fel offrwm i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Dyna sut gwnaeth Solomon, a holl bobl Israel, gyflwyno'r deml i'r ARGLWYDD.
64 Ar y diwrnod hwnnw hefyd, dyma'r brenin yn cysegru canol yr iard o flaen teml yr ARGLWYDD. Dyna ble wnaeth e offrymu aberthau i'w llosgi'n llwyr, yr offrymau o rawn, a braster yr offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD. Roedd yr allor bres oedd o flaen yr ARGLWYDD yn rhy fach i ddal yr holl offrymau.