1 Roedd Solomon wedi gorffen adeiladu teml yr ARGLWYDD, palas y brenin, a popeth arall roedd wedi bod eisiau ei wneud.
2 A dyma'r ARGLWYDD yn dod at Solomon am yr ail dro, fel roedd wedi gwneud yn Gibeon.
3 A dyma fe'n dweud, “Dw i wedi clywed dy weddïau a'r cwbl roeddet ti'n gofyn i mi ei wneud. A dw wedi cysegru'r deml yma rwyt ti wedi ei hadeiladu yn lle i mi fy hun am byth. Bydda i yna bob amser.
4 Dw i eisiau i ti fyw yn onest ac yn deg fel dy dad Dafydd, a gwneud popeth dw i'n ddweud – bod yn ufudd i'r rheolau a'r canllawiau dw i wedi eu rhoi.
5 Yna bydda i'n gwneud i dy deulu di deyrnasu ar Israel am byth. Dyna wnes i addo i Dafydd dy Dad: ‘Un o dy deulu di fydd ar orsedd Israel am byth.’
6 Ond os byddi di neu dy blant yn troi cefn arna i, a ddim yn dilyn y canllawiau a'r rheolau dw i wedi eu rhoi i chi; os byddwch chi'n addoli duwiau eraill,