13 Dyma fe'n dweud, “Beth ydy'r trefi diwerth yma wyt ti wedi eu rhoi i mi, frawd?” A dyma fe'n galw'r ardal yn Wlad Cabwl – sef ‛da i ddim‛. A dyna mae'r ardal yn cael ei galw hyd heddiw.
14 Dim ond pum mil cilogram o aur roddodd Hiram i Solomon amdanyn nhw.
15 Dyma'r manylion am y gweithlu gorfodol wnaeth Solomon ei godi – i adeiladu teml yr ARGLWYDD, ei balas, y terasau a waliau Jerwsalem, a hefyd caerau amddiffynnol Chatsor, Megido a Geser.
16 (Roedd y Pharo, brenin yr Aifft, wedi concro dinas Geser. Roedd wedi ei llosgi'n ulw a lladd y Canaaneaid oedd yn byw yno. Yna roedd wedi ei rhoi yn anrheg priodas i'w ferch, gwraig Solomon.
17 Felly dyma Solomon yn ailadeiladu Geser.) Hefyd Beth-choron Isaf,
18 Baalath, a Tamar yn yr anialwch.
19 Adeiladodd y canolfannau lle roedd ei storfeydd, a'r trefi ar gyfer y cerbydau a'r ceffylau rhyfel. Roedd Solomon yn adeiladu beth bynnag roedd e eisiau, yn Jerwsalem, yn Libanus ac ar hyd a lled y wlad.