22 Wnaeth Solomon ddim gorfodi pobl Israel i weithio iddo fel caethweision. Nhw oedd ei filwyr, ei weision, ei swyddogion, ei gerbydwyr, capteiniaid ei gerbydau a'i farchogion.
23 Ac roedd yna bum cant pum deg ohonyn nhw yn arolygu prosiectau adeiladu Solomon a gwneud yn siŵr fod y gweithwyr yn gwneud eu gwaith.
24 Ar ôl i ferch y Pharo symud i fyw o ddinas Dafydd i'r palas roedd Solomon wedi ei adeiladu iddi, dyma Solomon yn adeiladu'r terasau.
25 Dair gwaith y flwyddyn roedd Solomon yn aberthu anifeiliaid yn offrymau i'w llosgi ar yr allor roedd wedi ei hadeiladu, yn cyflwyno offrymau o rawn i'r ARGLWYDD ac yn llosgi arogldarth gyda nhw. Roedd wedi gorffen y gwaith o adeiladu'r deml.
26 Dyma Solomon hefyd yn adeiladu llynges iddo'i hun yn Etsion-geber, sy'n agos i Elat ar lan y Môr Coch yng ngwlad Edom.
27 A dyma Hiram yn anfon rhai o'i forwyr profiadol e i fynd gyda gweision Solomon yn y llongau.
28 A dyma nhw'n hwylio i Offir a dod â tua un deg chwech tunnell o aur o'r fan honno i'r Brenin Solomon.