8 Bydd y deml yma yn bentwr o gerrig. Bydd pawb sy'n mynd heibio yn chwibanu mewn rhyfeddod ac yn gofyn, ‘Pam mae'r ARGLWYDD wedi gwneud hyn i'r wlad ac i'r deml yma?’
9 A bydd eraill yn ateb, ‘Am eu bod nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD eu Duw, yr un ddaeth â nhw allan o wlad yr Aifft. Maen nhw wedi cymryd duwiau eraill i'w dilyn a'u haddoli. Dyna pam mae'r ARGLWYDD wedi gadael i'r dinistr yma ddigwydd.’”
10 Roedd dau ddeg mlynedd wedi mynd heibio ers i Solomon ddechrau codi'r ddau adeilad – teml yr ARGLWYDD a'r palas brenhinol.
11 A dyma'r brenin Solomon yn cynnig dau ddeg o bentrefi yn Galilea i Hiram, brenin Tyrus, am fod Hiram wedi rhoi iddo goed cedrwydd a choed pinwydd a hynny o aur oedd Solomon eisiau.
12 Ond pan aeth Hiram i weld y trefi roedd Solomon wedi eu rhoi iddo, doedd e ddim yn hapus.
13 Dyma fe'n dweud, “Beth ydy'r trefi diwerth yma wyt ti wedi eu rhoi i mi, frawd?” A dyma fe'n galw'r ardal yn Wlad Cabwl – sef ‛da i ddim‛. A dyna mae'r ardal yn cael ei galw hyd heddiw.
14 Dim ond pum mil cilogram o aur roddodd Hiram i Solomon amdanyn nhw.