15 A dyma hi'n ateb, “Dw i eisiau gofyn am rodd arall gen ti. Rwyt ti wedi rhoi tir i mi yn y Negef, ond wnei di roi ffynhonnau dŵr i mi hefyd?” A dyma Caleb yn rhoi'r ffynhonnau uchaf a'r ffynhonnau isaf iddi.
16 Aeth disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, o Jericho gyda phobl Jwda a setlo i lawr i fyw gyda nhw ger Arad yn anialwch Jwda yn y Negef.
17 Yna aeth dynion llwyth Jwda gyda llwyth Simeon i ymladd yn erbyn y Canaaneaid yn Seffath. Dyma nhw'n lladd pawb yno. Felly cafodd y dref ei galw yn Horma (sef Dinistr).
18 Yna dyma lwyth Jwda yn concro Gasa, Ashcelon ac Ecron, a'r tiroedd o'u cwmpas nhw.
19 Roedd yr ARGLWYDD yn helpu Jwda. Dyma nhw'n llwyddo i goncro'r bryniau. Ond roedden nhw'n methu gyrru allan y bobl oedd yn byw ar yr arfordir am fod ganddyn nhw gerbydau rhyfel haearn.
20 Cafodd tref Hebron ei rhoi i Caleb, fel roedd Moses wedi addo. Llwyddodd Caleb i yrru allan tri clan o bobl oedd yn ddisgynyddion i Anac.
21 Ond wnaeth llwyth Benjamin ddim gyrru allan y Jebwsiaid o Jerwsalem. Mae'r Jebwsiaid yn dal i fyw yn Jerwsalem gyda phobl llwyth Benjamin hyd heddiw.