Barnwyr 5 BNET

Debora a Barac yn canu mawl i'r ARGLWYDD

1 Y diwrnod hwnnw dyma Debora a Barac yn canu cân i ddathlu'r fuddugoliaeth:

2 Molwch yr ARGLWYDD!Pan mae arweinwyr Israel yn arwain,pan mae dynion yn gwirfoddoli'n frwd.

3 Clywch, frenhinoedd! Gwrandwch, arweinwyr!Dw i'n canu i'r ARGLWYDD!ie, canu mawl i'r ARGLWYDD, Duw Israel.

4 O ARGLWYDD, pan adewaist Seir,a chroesi gwastatir Edom,dyma'r ddaear yn crynu,a chymylau'r awyr yn tywallt y glaw.

5 Crynodd y mynyddoeddo flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai;o flaen yr ARGLWYDD, Duw Israel.

6 Yn nyddiau Shamgar, mab Anat,ac eto yn nyddiau Jael,roedd pobl yn osgoi'r priffyrddac yn teithio ar ffyrdd troellog cefn gwlad.

7 Roedd rhyfelwyr yn brin yn Israel,nes i ti, Debora, godi,fel mam gan amddiffyn Israel.

8 Roedd Israel yn dilyn duwiau newydd,a daeth gelynion i ymosod ar eu giatiau.Doedd dim tarian na gwaywffon i'w gaelgan bedwar deg o unedau milwrol Israel.

9 Ond molwch yr ARGLWYDD!Diolch am arweinwyr Israel,a'r dynion wnaeth wirfoddoli i ymladd.

10 Gwrandwch bawb! –chi sy'n marchogaeth asennod gwynion,yn eistedd yn gyfforddus ar garthenni cyfrwy,a chi sy'n gorfod cerdded ar y ffordd.

11 Gwrandwch arnyn nhw'n canu wrth y ffynhonnau! –yn canu am y cwbl wnaeth yr ARGLWYDD,a'r cwbl wnaeth rhyfelwyr Israel.Aeth byddin yr ARGLWYDD at giatiau'r ddinas!

12 Deffra! deffra! Debora.Deffra! deffra! cana gân!Ar dy draed, Barac!Cymer garcharorion rhyfel, fab Abinoam!

13 A dyma'r dynion oedd ar gaelyn dod i lawr at eu harweinwyr.Daeth pobl yr ARGLWYDDi ymuno gyda mi fel rhyfelwyr.

14 Daeth rhai o Effraim(lle bu'r Amaleciaid yn byw),a milwyr Benjamin yn eu dilyn.Daeth capteiniaid i lawr o Machir,ac uchel-swyddogion o Sabulon.

15 Roedd arweinwyr Issachar gyda Debora,ac yn ufudd i orchymyn Barac,yn rhuthro ar ei ôl i'r dyffryn.Ond roedd pobl llwyth Reubenyn methu penderfynu beth i'w wneud.

16 Pam wnaethoch chi aros wrth y corlannau?A'i i wrando ar y bugeiliaid yn canu eu pibau i'r defaid?Oedden, roedd pobl llwyth Reubenyn methu penderfynu beth i'w wneud.

17 A dyma pobl Gilead hefydyn aros yr ochr draw i'r IorddonenAc yna llwyth Dan –pam wnaethon nhw symud i weithio yn y dociau?Ac Asher, oedd yn byw ar yr arfordir –arhosodd yntau ger yr harbwr.

18 Roedd dynion Sabulon a Nafftaliyn mentro'u bywydau ar faes y gâd.

19 Daeth brenhinoedd Canaan i ymladd yn ein herbyn,yn Taanach wrth nentydd Megido.Ond gymron nhw ddim arian oddi arnon ni.

20 Daeth sêr yr awyr i ymuno yn y frwydr,ac ymladd yn erbyn Sisera.

21 Dyma'r Afon Cison yn eu hysgubo i ffwrdd;roedd yr afon yn eu hwynebu – Afon Cison.O, saf ar yddfau'r rhai cryfion!

22 Roedd carnau eu ceffylau yn taro'r tir,a'u meirch yn carlamu i ffwrdd.

23 “Melltithiwch dref Meros!” meddai angel yr ARGLWYDD.“Melltithiwch bawb sy'n byw yno,am iddyn nhw beidio dod i ymladd brwydr yr ARGLWYDD –ymladd yn erbyn arwyr y gelyn.”

24 Mae Jael yn haeddu ei hanrhydeddu,sef gwraig Heber y Cenead.Mae hi'n haeddu anrhydedd mwynac unrhyw wraig sy'n byw mewn pabell.

25 Gofynnodd Sisera am ddŵr, a rhoddodd iddo laeth;a powlen hardd o gaws colfran.

26 Gyda peg pabell yn ei llaw chwitha morthwyl yn y llaw dde,tarodd Sisera a malu ei benglog –bwrw'r peg drwy ochr ei ben!

27 Syrthiodd wrth ei thraed.Syrthio, a gorwedd yn llipa.Gorwedd ar lawr wrth ei thraed,yn llipa a difywyd – yn farw!

28 Wrth y ffenest roedd ei fam yn disgwyl;mam Sisera'n gweiddi yn ei gofid:“Pam mae e mor hir yn dod nôl?Pam nad oes sŵn carnau a cherbyd yn cyrraedd?”

29 Ac mae'r gwragedd doeth o'i chwmpasyn ateb, a hithau'n meddwl yr un fath,

30 “Mae'n siŵr eu bod nhw'n casglu trysorau,a merch neu ddwy i bob dyn ei threisio!Dillad lliwgar, hardd i Sisera;dillad gwych o ddefnydd wedi ei frodio,a sgarff neu ddau i'w gwisgo!”

31 O ARGLWYDD, boed i dy elynion i gydddarfod yr un fath!Ond boed i'r rhai sy'n dy garu diddisgleirio'n llachar fel yr haul ganol dydd!Ar ôl hynny roedd heddwch yn y wlad am bedwar deg o flynyddoedd.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21