Barnwyr 17 BNET

Micha yn gwneud eilun-ddelwau ac yn cyflogi offeiriad

1 Roedd dyn o'r enw Micha yn byw ym mryniau Effraim.

2 Dwedodd wrth ei fam, “Gwnes i dy glywed di yn melltithio'r lleidr wnaeth ddwyn y mil a chant o ddarnau arian oddi arnat ti. Wel, mae'r arian gen i. Fi wnaeth ei ddwyn e, a dw i'n mynd i'w roi yn ôl i ti.”A dyma'i fam yn dweud wrtho, “Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD yn dy fendithio di, fy mab!”

3 Daeth â'r arian yn ôl i'w fam, a dyma'i fam yn dweud, “Dw i am gysegru'r arian yma i'r ARGLWYDD. Er mwyn fy mab, dw i am ei ddefnyddio i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd.”

4 Pan roddodd yr arian i'w fam, dyma hi'n cymryd dau gant o ddarnau arian, a'u rhoi nhw i'r gof arian i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd. Yna eu gosod nhw yn nhŷ Micha.

5 Roedd gan Micha gysegr i addoli Duw yn ei dŷ. Roedd wedi gwneud effod ac eilun-ddelwau teuluol, ac wedi ordeinio un o'i feibion yn offeiriad.

6 Doedd dim brenin yn Israel bryd hynny. Roedd pawb yn gwneud beth roedden nhw'n feddwl oedd yn iawn.

7 Roedd dyn ifanc o Bethlehem yn Jwda (roedd yn perthyn i lwyth Lefi, ond wedi bod yn byw dros dro ar dir Jwda).

8 Penderfynodd fynd i chwilio am le arall i fyw. Cyrhaeddodd fryniau Effraim, a digwydd dod i dŷ Micha.

9 Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?”Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.”

10 A dyma Micha'n dweud, “Aros yma gyda mi. Cei fod yn gynghorydd ac offeiriad i mi. Gwna i dalu deg darn arian y flwyddyn i ti, a dillad a bwyd.”

11 Dyma fe'n cytuno i aros yno. Roedd fel un o'r teulu.

12 Roedd Micha wedi ei ordeinio yn offeiriad, ac roedd yn byw yn ei dŷ.

13 Ac meddai Micha wrtho'i hun, “Nawr dw i'n gwybod y bydd Duw yn dda i mi – mae gen i un o lwyth Lefi yn offeiriad!”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21