31 Wnaeth llwyth Asher ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Acco a Sidon, nac yn Achlaf, Achsib, Chelba, Affec a Rechob.
32 Felly roedd llwyth Asher yn byw yng nghanol y Canaaneaid i gyd, am eu bod heb eu gyrru nhw allan.
33 Wnaeth llwyth Nafftali ddim gyrru allan y bobl oedd yn byw yn Beth-shemesh na Beth-anath, ond dyma nhw'n eu gorfodi nhw i fod yn gaethweision. Roedd pobl Nafftali yn gorfod byw yng nghanol y Canaaneaid.
34 Cafodd llwyth Dan eu gorfodi gan yr Amoriaid i fyw yn y bryniau. Cawson nhw eu rhwystro rhag dod i lawr i fyw ar yr arfordir.
35 Roedd yr Amoriaid yn benderfynol o aros yn Har-cheres, Aialon, a Shaalfîm hefyd. Ond dyma lwythau meibion Joseff yn ymosod yn galed, a dyma nhw yn gorfodi'r Amoriaid i fod yn gaethweision iddyn nhw.
36 Roedd y ffin gyda'r Amoriaid yn rhedeg o Fwlch y Sgorpion ac i fyny heibio Sela.