1 Ar ôl i Abimelech farw dyma Tola, mab Pwa ac ŵyr Dodo, yn codi i achub Israel. Roedd yn perthyn i lwyth Issachar ac yn byw yn Shamîr ym mryniau Effraim.
2 Bu'n arwain Israel am ddau ddeg tair o flynyddoedd. Pan fu farw cafodd ei gladdu yn Shamîr.
3 Ar ôl Tola dyn o'r enw Jair o Gilead wnaeth arwain Israel am ddau ddeg dwy o flynyddoedd.
4 Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae'r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw.
5 Pan fuodd Jair farw cafodd ei gladdu yn Camon.
6 Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a stopio'i addoli e!
7 Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i'r Philistiaid a'r Ammoniaid eu rheoli nhw.