4 Roedd gan Jair dri deg o feibion ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun, ac roedd pob un yn rheoli tref yn Gilead. Mae'r trefi yma yn Gilead yn dal i gael eu galw yn Hafoth-jair hyd heddiw.
5 Pan fuodd Jair farw cafodd ei gladdu yn Camon.
6 Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Dyma nhw'n addoli delwau o Baal a'r dduwies Ashtart, a duwiau Syria, Sidon, Moab, yr Ammoniaid a'r Philistiaid. Roedden nhw wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD a stopio'i addoli e!
7 Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda phobl Israel. Dyma fe'n gadael i'r Philistiaid a'r Ammoniaid eu rheoli nhw.
8 Roedden nhw'n curo a cham-drin pob Israel yn ddidrugaredd. Roedd pobl Israel oedd yn byw ar dir yr Amoriaid i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen (sef Gilead), wedi dioddef am un deg wyth o flynyddoedd.
9 Yna dyma'r Ammoniaid yn croesi'r Iorddonen i ymladd gyda llwythau Jwda, Benjamin ac Effraim. Roedd hi'n argyfwng go iawn ar Israel.
10 A dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD a dweud, “Dŷn ni wedi pechu yn dy erbyn di! Dŷn ni wedi troi cefn ar ein Duw ac addoli delwau Baal.”