1 Roedd dyn yn Gilead o'r enw Jefftha. Roedd yn filwr dewr. Putain oedd ei fam, ond roedd e wedi cael ei fagu gan ei dad, Gilead.
2 Roedd gan Gilead nifer o feibion eraill oedd yn blant i'w wraig. Pan oedd y rhain wedi tyfu dyma nhw'n gyrru Jefftha i ffwrdd. “Dwyt ti ddim yn mynd i etifeddu dim o eiddo'r teulu. Mab i wraig arall wyt ti.”
3 Felly roedd rhaid i Jefftha ddianc oddi wrth ei frodyr. Aeth i fyw i ardal Tob, ac yn fuan iawn roedd yn arwain gang o rapsgaliwns gwyllt.
4 Roedd hi beth amser ar ôl hyn pan ddechreuodd yr Ammoniaid ryfela yn erbyn Israel.