16 Pan ddaethon nhw allan o'r Aifft dyma nhw'n teithio drwy'r anialwch at y Môr Coch ac yna ymlaen i Cadesh.
17 Anfonodd Israel negeswyr at frenin Edom, yn gofyn, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di?’ Ond dyma frenin Edom yn gwrthod gadael iddyn nhw. Yna dyma Israel yn gofyn yr un peth i frenin Moab ond doedd yntau ddim yn fodlon gadael iddyn nhw groesi. Felly dyma bobl Israel yn aros yn Cadesh.
18 Yna dyma nhw'n mynd rownd Edom a Moab – pasio heibio i'r dwyrain o wlad Moab, a gwersylla yr ochr draw i'r Afon Arnon. Wnaethon nhw ddim croesi tir Moab o gwbl (yr Afon Arnon oedd ffin Moab).
19 “Wedyn dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’
20 Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi ei dir. Felly dyma fe'n galw ei fyddin at ei gilydd a codi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel.
21 Ond dyma'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin gyfan. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd –
22 o'r Afon Arnon yn y de i'r Afon Jabboc yn y gogledd ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin.