19 “Wedyn dyma Israel yn anfon negeswyr at Sihon, brenin yr Amoriaid, oedd yn teyrnasu yn Cheshbon, a gofyn iddo, ‘Wnei di roi caniatâd i ni groesi dy dir di i ni fynd i'n tir ein hunain?’
20 Ond doedd Sihon ddim yn trystio pobl Israel i adael iddyn nhw groesi ei dir. Felly dyma fe'n galw ei fyddin at ei gilydd a codi gwersyll yn Iahats, i ymosod ar Israel.
21 Ond dyma'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn eu galluogi nhw i drechu Sihon a'i fyddin gyfan. A dyma Israel yn cymryd tiroedd yr Amoriaid i gyd –
22 o'r Afon Arnon yn y de i'r Afon Jabboc yn y gogledd ac o'r anialwch yn y dwyrain i'r Iorddonen yn y gorllewin.
23 “Felly, yr ARGLWYDD, Duw Israel, wnaeth yrru'r Amoriaid allan o flaen pobl Israel. Pa hawl sydd gen ti i'w gymryd oddi arnyn nhw?
24 Cadw di beth mae dy dduw Chemosh yn ei roi i ti. Dŷn ni am gadw tiroedd y bobloedd mae'r ARGLWYDD wedi eu gyrru allan o'n blaen ni.
25 Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw?