25 Wyt ti'n meddwl dy fod ti'n gryfach na Balac fab Sippor, brenin Moab? Wnaeth e fentro ffraeo gyda phobl Israel? Wnaeth e ymladd yn eu herbyn nhw?
26 Mae pobl Israel wedi bod yn byw yn y trefi yma ers tri chan mlynedd – Cheshbon ac Aroer a'r pentrefi o'u cwmpas, a'r trefi sydd wrth Afon Arnon. Pam ydych chi ddim wedi eu cymryd nhw yn ôl cyn hyn?
27 “Dw i ddim wedi gwneud cam â ti. Ti sydd ar fai yn dechrau'r rhyfel yma. Heddiw bydd yr ARGLWYDD, y Barnwr, yn penderfynu pwy sy'n iawn – pobl Israel neu'r Ammoniaid!”
28 Ond wnaeth brenin Ammon gymryd dim sylw o neges Jefftha.
29 A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod ar Jefftha. Dyma fe'n mynd â'i fyddin trwy diroedd Gilead a Manasse, pasio trwy Mitspe yn Gilead, ac ymlaen i wynebu byddin yr Ammoniaid.
30 Dyma Jefftha yn addo ar lw i'r ARGLWYDD, “Os gwnei di adael i mi guro byddin yr Ammoniaid,
31 gwna i roi i'r ARGLWYDD beth bynnag fydd gyntaf i ddod allan o'r tŷ i'm cwrdd i pan af i adre. Bydda i'n ei gyflwyno yn aberth i'w losgi'n llwyr i Dduw.”