9 A dyma Jefftha'n dweud, “Iawn. Os gwna i ddod gyda chi, a'r ARGLWYDD yn gadael i mi ennill y frwydr, fi fydd eich pennaeth chi.”
10 Ac meddai'r arweinwyr, “Mae'r ARGLWYDD yn dyst a bydd yn ein barnu ni os na wnawn ni fel ti'n dweud.”
11 Felly dyma Jefftha'n mynd gydag arweinwyr Gilead a dyma fe'n cael ei wneud yn bennaeth ac arweinydd y fyddin. A dyma Jefftha'n ailadrodd telerau'r cytundeb o flaen yr ARGLWYDD yn Mitspa.
12 Yna dyma fe'n anfon negeswyr at frenin yr Ammoniaid i ofyn pam oedd e'n ymosod ar y wlad.
13 Yr ateb roddodd brenin yr Ammoniaid i'r negeswyr oedd, “Am fod pobl Israel wedi dwyn ein tir ni pan ddaethon nhw o'r Aifft – o Afon Arnon yn y de i Afon Jabboc yn y gogledd, ac at yr Iorddonen yn y gorllewin. Rho'r tir yn ôl i mi, a fydd yna ddim rhyfel.”
14 Dyma Jefftha'n anfon y neges yma'n ôl at frenin Ammon,
15 “Wnaeth Israel ddim dwyn y tir oddi ar bobloedd Moab ac Ammon.