4 Yna dyma Jefftha yn casglu byddin o ddynion Gilead at ei gilydd a mynd i ymladd yn erbyn dynion Effraim. Roedd dynion Effraim wedi sarhau pobl Gilead drwy ddweud, “Dydy pobl Gilead yn ddim byd ond cachgwn yn cuddio ar dir Effraim a Manasse!”
5 Dyma ddynion Gilead yn dal y rhydau lle roedd pobl yn croesi'r afon Iorddonen, i rwystro dynion Effraim rhag dianc. Pan oedd rhywun o Effraim yn dod ac yn gofyn am gael croesi byddai dynion Gilead yn gofyn, “Wyt ti'n perthyn i lwyth Effraim?” Petai'n ateb, “Na,”
6 bydden nhw'n gofyn iddo wedyn ddweud y gair “Shiboleth!” Ond “Siboleth!” oedd dynion Effraim yn ei ddweud (roedden nhw'n methu dweud y gair yn iawn). Wedyn byddai dynion Gilead yn eu dal nhw ac yn eu lladd nhw yn y fan a'r lle. Cafodd pedwar deg dau o filoedd o ddynion Effraim eu lladd y diwrnod hwnnw.
7 Dyma Jefftha yn arwain Israel am chwe mlynedd. Pan fu farw cafodd ei gladdu yn ei dref ei hun yn Gilead.
8 Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel.
9 Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe'n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o'r tu allan i'w glan, a dyma fe'n trefnu i ferched o'r tu allan briodi ei feibion.Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd.
10 Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Bethlehem.