8 Ar ôl Jefftha, dyma Ibsan o Bethlehem yn arwain Israel.
9 Roedd ganddo dri deg mab a thri deg merch. Dyma fe'n rhoi ei ferched yn wragedd i ddynion o'r tu allan i'w glan, a dyma fe'n trefnu i ferched o'r tu allan briodi ei feibion.Buodd Ibsan yn arwain Israel am saith mlynedd.
10 Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Bethlehem.
11 Yr arweinydd nesaf oedd Elon o lwyth Sabulon. Bu'n arwain pobl Israel am ddeg mlynedd.
12 Pan fuodd e farw cafodd ei gladdu yn Aialon ar dir llwyth Sabulon.
13 Abdon fab Hilel o Pirathon oedd arweinydd nesaf Israel.
14 Roedd ganddo bedwar deg o feibion a tri deg o wyrion – ac roedd gan bob un ohonyn nhw ei asyn ei hun. Bu Abdon yn arwain pobl Israel am wyth mlynedd.