1 Dyma bobl Israel unwaith eto yn gwneud beth oedd yn ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD. Felly dyma'r ARGLWYDD yn gadael i'r Philistiaid eu rheoli nhw am bedwar deg o flynyddoedd.
2 Bryd hynny roedd dyn o'r enw Manoa, o lwyth Dan, yn byw yn Sora. Doedd gwraig Manoa ddim yn gallu cael plant.
3 Un diwrnod dyma angel yr ARGLWYDD yn rhoi neges iddi, “Er dy fod ti wedi methu cael plant hyd yn hyn, ti'n mynd i feichiogi a byddi'n cael mab.
4 Bydd yn ofalus! Paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, na bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan.
5 Wir i ti, rwyt ti'n mynd i feichiogi a cael mab. Ond rhaid i ti beidio torri ei wallt, am fod y plentyn i gael ei gysegru'n Nasaread i'r ARGLWYDD o'r eiliad mae'n cael ei eni. Bydd yn mynd ati i achub Israel o afael y Philistiaid.”
6 A dyma hi'n mynd i ddweud wrth ei gŵr beth oedd wedi digwydd. “Mae dyn wedi dod ata i oddi wrth Dduw. Roedd fel angel Duw – yn ddigon i godi braw arna i! Wnes i ddim gofyn iddo o ble roedd e'n dod, a wnaeth e ddim dweud ei enw.
7 Dwedodd wrtho i, ‘Rwyt ti'n mynd i fod yn feichiog a byddi'n cael mab. Felly, paid yfed gwin nag unrhyw ddiod feddwol arall, a paid bwyta unrhyw beth fydd yn dy wneud di'n aflan. Bydd y plentyn wedi ei gysegru yn Nasaread i Dduw o'i eni i'w farw.’”