1 Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna. Yno roedd merch ifanc wedi dal ei lygad, un o ferched y Philistiaid.
2 Pan aeth yn ôl adre dyma fe'n dweud wrth ei dad a'i fam, “Dw i wedi gweld merch ifanc yn Timna – un o ferched y Philistiaid. Ewch i'w nôl hi i fod yn wraig i mi.”
3 Ond dyma ei rieni'n ateb, “Mae'n rhaid bod yna ferch ifanc rywle – un o dy berthnasau; un o dy bobl dy hun. Mae'r Philistiaid yn baganiaid. Pam ddylet ti fynd atyn nhw i gael gwraig?”“Ewch i'w nôl hi. Hi dw i eisiau. Mae hi'n bishyn.”
4 (Doedd ei dad a'i fam ddim yn sylweddoli mai'r ARGLWYDD oedd tu ôl i hyn i gyd, a'i fod yn creu cyfle i achosi helynt i'r Philistiaid. Y Philistiaid oedd yn rheoli Israel ar y pryd).
5 Dyma Samson yn mynd i lawr i Timna gyda'i rieni. Pan oedd wrth ymyl gwinllannoedd Timna dyma lew ifanc yn rhuthro ato.
6 A dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno'n rymus a dyma fe'n rhwygo'r llew a'i ladd gyda dim ond nerth braich, fel petai'n fyn gafr bach ifanc. (Ond wnaeth e ddim dweud wrth ei rieni beth roedd wedi ei wneud).
7 Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.