7 Yna aeth Samson yn ei flaen i Timna a siarad â'r ferch ifanc. Roedd e wir yn ei ffansïo hi.
8 Beth amser ar ôl hynny aeth Samson i Timna i'w phriodi hi. Ar ei ffordd aeth i weld beth oedd ar ôl o'r llew oedd wedi ymosod arno. Cafodd fod haid o wenyn yn byw yn sgerbwd yr anifail a bod mêl ynddo.
9 Dyma fe'n crafu peth o'r mêl gyda'i ddwylo a'i fwyta wrth gerdded. Aeth yn ôl at ei rieni a rhoi peth o'r mêl iddyn nhw i'w fwyta. (Ond wnaeth e ddim dweud wrthyn nhw ei fod wedi crafu'r mêl allan o sgerbwd y llew).
10 Ar ôl hyn dyma ei dad yn mynd gydag e i Timna i weld y ferch. A dyma Samson yn trefnu parti, am mai dyna oedd dynion ifanc oedd am briodi yn arfer ei wneud bryd hynny.
11 Pan welodd y Philistiaid Samson dyma nhw'n rhoi tri deg o ffrindiau i gadw cwmni iddo yn y parti.
12 A dyma Samson yn dweud wrthyn nhw, “Gadewch i mi osod pos i chi. Os rhowch chi'r ateb i mi cyn diwedd y parti mewn wythnos, gwna i roi mantell newydd, a set o ddillad newydd i'r tri deg ohonoch chi.
13 Ond os allwch chi ddim datrys y pos, bydd rhaid i bob un ohonoch chi roi mantell a set o ddillad newydd i mi.”Felly dyma nhw'n dweud wrtho, “Iawn, gad i ni glywed beth ydy dy bos di.”