18 Pan sylweddolodd Delila ei fod wedi dweud ei gyfrinach wrthi, dyma hi'n anfon am arweinwyr y Philistiaid. Ac meddai wrthyn nhw, “Dewch yn ôl, mae e wedi dweud wrtho i beth ydy'r gyfrinach.”Felly dyma arweinwyr y Philistiaid yn mynd yn ôl ati, a'r arian i'w thalu hi gyda nhw.
19 Dyma Delila'n cael Samson i gysgu, a'i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi'n galw dyn draw i dorri ei wallt i gyd i ffwrdd – y saith plethen. A dyna ddechrau'r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd.
20 Dyma hi'n gweiddi, “Mae'r Philistiaid yma, Samson!” A dyma fe'n deffro, gan feddwl, “Gwna i yr un peth ag o'r blaen, a chael fy hun yn rhydd.” (Doedd e ddim yn sylweddoli fod yr ARGLWYDD wedi ei adael e.)
21 Dyma'r Philistiaid yn ei ddal a thynnu ei lygaid allan. Yna dyma nhw'n mynd ag e i'r carchar yn Gasa. Yno dyma nhw'n rhoi cadwyni pres arno a gwneud iddo falu ŷd.
22 Ond cyn hir roedd ei wallt yn dechrau tyfu eto.
23 Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu, a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio,“Ein duw ni, Dagon –mae wedi rhoi Samsonein gelyn, yn ein gafael!”
24 Roedd y bobl i gyd yn edrych ar eu duw ac yn ei foli. “Mae'n duw ni wedi rhoi ein gelyn yn ein gafael. Roedd e wedi dinistrio'n gwlad, a lladd cymaint ohonon ni.”